Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

12 Medi 2016

SL(5)007 – Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae Rheoliadau UE 609/2013 (y Rheoliad UE) yn rheoleiddio gofynion cyfansoddiadol a labelu bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau. Mae gan y Rheoliad UE effaith uniongyrchol yng Nghymru, sy’n golygu bod y gofynion cyfansoddiadol a labelu’n gymwys yn awtomatig yng Nghymru, heb angen pasio deddfwriaeth ddomestig.

Mae Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 (Rheoliadau Cymru) yn darparu ar gyfer gorfodi rhannau penodol o’r Rheoliad UE. Mae’r Rheoliadau Cymru’n gwneud hynny trwy ddarparu ar gyfer rhoi hysbysiadau gwella i’r rhai sy’n methu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliad UE. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella’n drosedd.

Deddf Wreiddiol: Deddf Diogelwch Bwyd 1990; Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972

Fe’u gwnaed ar: 12 Gorffennaf 2016

Fe'u gosodwyd ar:12 Gorffennaf 2016        
Yn dod i rym ar: 2 Awst 2016

SL(5)010 – Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio 4 cyfres o reoliadau sy’n ymwneud yn bennaf â chasglu gwybodaeth am asesiadau yn y Cyfnod Sylfaen, a chyflwyno adroddiadau am y wybodaeth honno.

Deddf Wreiddiol:Deddf Addysg 1996, Deddf Addysg 2002

Fe’u gwnaed ar: 5 Awst 2016
Fe'u gosodwyd ar:
10 Awst 2016
Yn dod i rym ar:
1 Medi 2016

SL(5)011 – Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen (Cymru) 2015.

O dan adran 108(2) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy Orchymyn, y meysydd dysgu ar gyfer y cyfnod sylfaen a’r deilliannau dymunol, y rhaglenni astudio a’r trefniadau asesu y maent yn ystyried eu bod yn briodol mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu hynny.

Deddf Wreiddiol:Deddf Addysg 2002

Fe’i gwnaed ar: 5 Awst 2016
Fe'i gosodwyd ar:
10 Awst 2016
Yn dod i rym ar:
1 Medi 2016    

SL(5)012 –Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwad Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) 2016

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu i ffioedd fod yn daladwy, ac yn nodi sut y mae symiau ffioedd o’r fath i gael eu pennu, am arfer swyddogaeth gan arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r ymchwiliadau a’r gofynion adrodd a ganlyn—

-     gwirio trefniadau samplu a dadansoddi dŵr;

-     gwirio trefniadau rheoli cyflenwad dŵr;

-     ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall sy’n deillio o ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr;

-     gwirio’r dull o ymdrin â chwynion gan ddefnyddwyr am ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr a’r dull o adrodd ar y cwynion hynny; a

-     gwirio cydymffurfedd â gofynion i roi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch  y trefniadau a’r materion hyn neu i’w hysbysu amdanynt.

Deddf Wreiddiol:Deddf y Diwydiant Dŵr 1991

Fe’u gwnaed ar: 9 Awst 2016
Fe'u gosodwyd ar:
17 Awst 2016
Yn dod i rym ar:
8 Medi 2016